1 Corinthiaid: Pennod 4

Pennod 4

Paul a'r Corinthiaid

1 Dylech chi'n hystyried ni fel gweision i'r Meseia — gweision sydd â'r cyfrifoldeb ganddyn nhw o esbonio pethau dirgel Duw. 2 Wrth gwrs, mae disgwyl i rywun sydd wedi derbyn cyfrifoldeb brofi ei fod yn ffyddlon. 3 Felly dim beth dych chi na neb arall yn ei feddwl sy'n bwysig gen i; yn wir, dim beth dw i fy hun yn ei feddwl sy'n bwysig hyd yn oed! 4 Mae nghydwybod i'n glir, ond dydy hynny ddim yn profi mod i'n iawn. Beth mae Duw ei hun yn ei feddwl ohono i sy'n cyfri. 5 Felly peidiwch cyhoeddi'ch dedfryd ar bethau yn rhy fuan; arhoswch nes i'r Arglwydd ddod yn ôl. Bydd y gwir i gyd yn dod i'r golau bryd hynny. Bydd cymhellion pawb yn dod i'r amlwg, a bydd pawb yn derbyn beth mae'n ei haeddu gan Dduw. 6 Ffrindiau annwyl, dw i wedi defnyddio fi fy hun ac Apolos fel esiampl, er mwyn i chi ddysgu beth ydy ystyr “peidio mynd y tu hwnt i beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.” Byddwch chi'n stopio honni fod un yn well na'r llall wedyn. 7 Beth sy'n eich gwneud chi'n well na phobl eraill? Beth sydd gynnoch chi ydych chi ddim yn y pen draw wedi ei dderbyn gan Dduw? Ac os mai rhodd gan Dduw ydy'r cwbl, beth sydd i frolio amdano? — fel petaech chi'ch hunain wedi cyflawni rhywbeth! 8 Edrychwch arnoch chi! Dych chi'n meddwl fod popeth gynnoch chi yn barod! Dych chi mor gyfoethog! Dyma chi wedi cael eich teyrnas — a ninnau'n dal y tu allan! Byddai'n wych gen i tasech chi yn teyrnasu go iawn, er mwyn i ninnau gael teyrnasu gyda chi. 9 Wyddoch chi, mae'n edrych fel petai Duw wedi ein gwneud ni, ei gynrychiolwyr personol, fel y carcharorion rhyfel sydd ar ddiwedd y prosesiwn — y rhai sydd wedi eu condemnio i farw yn yr arena. Dyn ni wedi cael ein gwneud yn sioe i ddifyrru'r byd — pobl ac angylion. 10 Ni yn edrych yn ffyliaid dros achos y Meseia, a chi'n bobl mor ddoeth! Ni yn wan, a chi mor gryf! Chi yn cael eich canmol a ninnau'n destun sbort! 11 Hyd heddiw dyn ni'n brin o fwyd a diod, a heb ddigon o ddillad i'n cadw'n gynnes. Dyn ni wedi cael ein cam-drin a does gynnon ni ddim cartrefi. 12 Dyn ni wedi gweithio'n galed i ennill ein bywoliaeth. Dyn ni'n bendithio'r bobl sy'n ein bygwth ni. Dyn ni'n goddef pobl sy'n ein cam-drin ni. 13 Dyn ni'n ymateb yn garedig pan mae pobl yn ein henllibio ni. Hyd heddiw dyn ni wedi cael ein trin gan bobl fel sbwriel, neu'n ddim byd ond baw! 14 Dim ceisio creu embaras i chi ydw i wrth ddweud hyn i gyd, ond eich rhybuddio chi. Dych chi fel plant annwyl i mi! 15 Hyd yn oed petai miloedd o bobl eraill yn eich dysgu chi fel Cristnogion, fyddai'n dal gynnoch chi ond un tad ysbrydol! Fi gafodd y fraint o fod yn dad i chi pan wnes i gyhoeddi'r newyddion da i chi. 16 Felly plîs, dilynwch fy esiampl i! 17 Dyna pam dw i'n anfon Timotheus atoch chi — mae e'n fab annwyl i mi yn yr Arglwydd, a dw i'n gallu dibynnu'n llwyr arno. Bydd yn eich atgoffa chi sut dw i'n ymddwyn a beth dw i'n ei ddysgu am y Meseia Iesu. Dyma dw i'n ei ddysgu yn yr eglwysi i gyd, ble bynnag dw i'n mynd. 18 Ond mae rhai pobl, mor siŵr ohonyn nhw eu hunain, yn meddwl na fydda i'n ymweld â chi byth eto. 19 Ond dw i yn dod — a hynny'n fuan, os Duw a'i myn. Byddwn ni'n gweld wedyn os mai dim ond ceg fawr sydd ganddyn nhw, neu oes ganddyn nhw'r gallu i wneud rhywbeth! 20 Dim beth mae pobl yn ei ddweud, ond beth allan nhw ei wneud sy'n dangos Duw'n teyrnasu. 21 Dewiswch beth sydd orau gynnoch chi — i mi ddod gyda gwialen i gosbi a dweud y drefn, neu ddod yn llawn cariad ac yn addfwyn?

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Gwener, Mai 27, 2016