Actau: Pennod 2

Pennod 2

Yr Ysbryd Glân yn dod ar y Pentecost

1 Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto. 2 Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod. 3 Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. 4 Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny. 5 Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. 6 Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. 7 Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw. 8 “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?” 9 (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, 10 Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain 11 — rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig — a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!” 12 Dyna lle roedden nhw yn sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw. 13 Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”

Pedr yn annerch y dyrfa

14 Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus — gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd. 15 Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi, fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi! 16 “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:

17 ‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf

Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.

Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,

bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,

a dynion hŷn yn cael breuddwydion.

18 Bryd hynny bydda i'n

tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,

yn ddynion a merched,

a byddan nhw'n proffwydo.

19 Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr

ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear —

gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.

20 Bydd yr haul yn troi'n dywyll

a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed

cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod,

sef, Dydd yr Arglwydd.

21 Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd

yn cael eu hachub.’ Croes

22 “Bobl Israel, gwrandwch beth dw i'n ei ddweud: Dangosodd Duw i chi ei fod gyda Iesu o Nasareth — dych chi'n gwybod hynny'n iawn, am fod Duw wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol trwyddo, a phethau eraill oedd yn dangos pwy oedd e. 23 Roedd Duw'n gwybod ac wedi trefnu ymlaen llaw beth fyddai'n digwydd iddo. Dyma chi, gyda help y Rhufeiniaid annuwiol yn ei ladd drwy ei hoelio a'i hongian ar groes. 24 Ond dyma Duw yn ei godi yn ôl yn fyw a'i ollwng yn rhydd o grafangau marwolaeth. Roedd yn amhosib i farwolaeth ddal gafael ynddo! 25 Dyna'n union ddwedodd y Brenin Dafydd:

‘Gwelais fod yr Arglwydd gyda mi bob amser.

Am ei fod yn sefyll wrth fy ochr i

fydd dim yn fy ysgwyd i.

26 Felly mae nghalon i'n llawen

a'm tafod yn gorfoleddu;

mae fy nghorff yn byw mewn gobaith,

27 am na fyddi di'n fy ngadael i gyda'r meirw, Ref

gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.

28 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;

bydd bod gyda thi yn fy llenwi â llawenydd.’ Croes

29 “Frodyr a chwiorydd, mae'n amlwg bod y Brenin Dafydd ddim yn sôn amdano'i hun. Buodd farw a chafodd ei gladdu ganrifoedd yn ôl, ac mae ei fedd yn dal gyda ni heddiw. 30 Ond roedd Dafydd yn broffwyd, ac yn gwybod fod Duw wedi addo y byddai un o'i ddisgynyddion yn eistedd ar ei orsedd, sef y Meseia. Croes 31 Roedd yn sôn am rywbeth fyddai'n digwydd yn y dyfodol. Sôn am y Meseia'n dod yn ôl yn fyw roedd Dafydd pan ddwedodd na chafodd ei adael gyda'r meirw ac na fyddai ei gorff y pydru'n y bedd! Croes 32 A dyna ddigwyddodd! — mae Duw wedi codi Iesu yn ôl yn fyw, a dyn ni'n lygad-dystion i'r ffaith! 33 Bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Rhoddodd y Tad yr Ysbryd Glân oedd wedi ei addo iddo, er mwyn iddo ei dywallt arnon ni. Dyna dych chi wedi ei weld a'i glywed yn digwydd yma heddiw. 34 “Meddyliwch am y peth! — chafodd y Brenin Dafydd mo'i godi i fyny i'r nefoedd, ac eto dwedodd hyn:

“Dwedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd:

‘Eistedd yma yn y sedd anrhydedd Ref

35 nes i mi wneud i dy elynion blygu

fel stôl i ti orffwys dy draed arni’” Croes

36 “Felly dw i am i Israel gyfan ddeall hyn: Mae Duw wedi gwneud yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio yn Arglwydd, a Meseia.” 37 Roedd pobl wedi eu hysgwyd i'r byw gan beth ddwedodd Pedr, a dyma nhw'n gofyn iddo ac i'r apostolion eraill, “Frodyr, beth ddylen ni wneud?” 38 Dyma Pedr yn ateb, “Rhaid i chi droi cefn ar eich pechod, a chael eich bedyddio fel arwydd eich bod yn perthyn i Iesu y Meseia a bod Duw yn maddau eich pechodau chi. Wedyn byddwch chi'n derbyn yr Ysbryd Glân yn rhodd gan Dduw. 39 Mae Duw wedi addo hyn i chi ac i'ch disgynyddion, ac i bobl sy'n byw yn bell i ffwrdd — pawb fydd yr Arglwydd ein Duw yn eu galw ato'i hun.” 40 Aeth Pedr yn ei flaen i ddweud llawer iawn mwy wrthyn nhw. Roedd yn eu rhybuddio nhw ac yn apelio'n daer, “Achubwch eich hunain o afael y gymdeithas droëdig yma!” 41 Dyma'r rhai wnaeth gredu beth oedd Pedr yn ei ddweud yn cael eu bedyddio — tua tair mil ohonyn nhw y diwrnod hwnnw!

Y berthynas glos oedd rhwng y rhai oedd yn credu

42 Roedden nhw'n dal ati o ddifri. Yn dilyn beth oedd yr apostolion yn ei ddysgu, yn rhannu popeth, yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd ac yn gweddïo gyda'i gilydd. 43 Roedd rhyw ymdeimlad o ryfeddod dwfn yn eu plith nhw. Roedd yr apostolion yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos fod Duw gyda nhw. 44 Roedd pawb oedd yn credu yn teimlo eu bod nhw'n un teulu, ac yn rhannu popeth gyda'i gilydd. 45 Roedden nhw'n gwerthu eu heiddo er mwyn gallu helpu pwy bynnag oedd mewn angen. 46 Roedden nhw'n dal ati i gyfarfod bob dydd yng nghwrt y deml, ac yn bwyta a dathlu Swper yr Arglwydd yn nhai eu gilydd. 47 Roedden nhw'n moli Duw, ac roedd agwedd pobl tuag atyn nhw yn bositif iawn. Roedd mwy a mwy o bobl yn ymuno a nhw, ac yn cael eu hachub gan Dduw, bob dydd.

trefn: 
0
dyddiad anfon: 
dydd Mercher, Mawrth 2, 2016