Canaan

 

• Ardal i’r gorllewin o’r Iorddonen. Mae’n cynnwys yr Israel fodern, y Llain Orllewinol, gorllewin Gwlad yr Iorddonen, De Syria a De Lebanon.
• Dyma’r wlad roddodd Duw i Moses a’r Israeliaid wedi iddyn nhw adael caethiwed gwlad yr Aifft. Ond cafodd Moses ddim mynd i fewn i wlad Canaan. Josua arweiniodd y genedl i mewn i’w gwlad newydd. Mae yna lawer sôn am wlad Canaan yn llyfrau Genesis ac Exodus.
• Brwydrodd y bobl yn galed am amser hir er mwyn concro’r wlad gyda help Duw.
• Roedd Canaan yn wlad braf. Yn y Beibl mae’n cael ei disgrifio fel gwlad â "thir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo!" (Exodus 3:8)
(gweler Actau 7:11; 13:19)