Eliseus

 

Proffwyd o gyfnod yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig. Dilynodd Elias fel proffwyd wedi i Elias gael ei gymryd i’r nefoedd mewn cerbyd o dân. Dyma rai o brif ddigwyddiadau gweinidogaeth Eliseus ( tua 848 – 797C.C.)
• gweld Elias yn esgyn i’r nefoedd mewn cerbyd. Gwisgo mantell Elias, ac ysbryd Elias yn disgyn arno
• Glanhau dŵr chwerw
• Eliseus yn cynorthwyo gweddw dlawd
• Eliseus a’r wraig fonheddig o Sunem
• Iachau Namaan o’r gwahanglwyf
• Gwyrth adfer y fwyell oedd wedi ei cholli
• Gwyrth adeg gorchfygu Byddin Syria
• Eneinio Jehu yn frenin Israel
• Y digwyddiadau adeg ei farwolaeth
(gweler 1 Brenhinoedd 19:16-21; 2 Brenhinoedd 2:1–9:3; 13:14-21; Luc 4:27)