Ioan Fedyddiwr

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Roedd yn gefnder i Iesu Grist.
• Cafodd ei eni tua 7 C.C. yn fab i Sachareias (offeiriad) a’i wraig Elisabeth. Roedd y ddau heb blant, ac yn hen pan gafodd Sachareias wybod gan angel yn y deml eu bod nhw’ n mynd i gael mab, a’i enw fyddai Ioan.
• Ystyr yr enw Ioan ydy “Mae Duw yn rasol”.
• Wedi tyfu’n ddyn, daeth Ioan yn broffwyd ac yn bregethwr enwog, yn galw ar yr Iddewon i edifarhau. Roedd pobl yn tyrru ato ar lan yr afon Iorddonen, ac yn cael eu bedyddio yn yr afon fel arwydd eu bod nhw’n flin am bechu, a’u bod yn troi i ffwrdd oddi wrth bechod (edifarhau). Roedd Ioan yn feirniadol iawn o arweinyddion crefyddol y cyfnod, ac yn pwysleisio bod dibynnu ar y ffaith eu bod nhw’n ddisgynyddion i Abraham yn cyfri dim o flaen Duw. Roedd angen iddyn nhw ddechrau o’r newydd, ac roedd Duw yn mynd i anfon rhywun i’r byd i’w helpu nhw i wneud hynny. Dim ond paratoi’r ffordd ar gyfer y “rhywun” yma oedd Ioan. Wrth gwrs, Iesu oedd yr un gafodd ei anfon gan Dduw i roi dechrau newydd i bobl y ddaear.
• Daeth Iesu at Ioan i gael ei fedyddio, ac adnabyddodd Ioan o fel yr un roedd Duw wedi ei anfon i’r byd.
• Gweithiodd Ioan yn ardal Samaria hefyd yn ôl Efengyl Ioan, ond yna daeth yn ôl i’r ardal lle roedd Herod Antipas yn rheoli. Cafodd Ioan ei garcharu gan Herod am ddau reswm.
1) Roedd arno ofn bod Ioan yn arweinydd rhy boblogaidd, ac y gallai arwain y bobl i wrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid.
2) Roedd Ioan wedi beirniadu Antipas ar lefel personol, oherwydd ei briodas gyda Herodias, gwraig ei frawd, Herod Philip. Roedd yn anghyfreithlon i ddyn briodi gwraig ei frawd os oedd y brawd hwnnw’n dal yn fyw.
• Mae’r hanesydd Josephus yn dweud fod Ioan wedi cael ei garcharu yn Machaerus, caer yn ardal Perea ar ochr ddwyreiniol y Môr Marw. Yn y diwedd, cafodd Ioan ei ladd wedi i ferch Herodias, gwraig Antipas, ofyn am ben y bedyddiwr fel gwobr am ddawnsio o flaen Antipas a’i gyfeillion.
• Roedd Ioan yn cael ei weld fel yr Elias newydd oedd wedi ei addo gan Malachi (Malachi 4:5). Disgrifiodd Malachi broffwyd oedd yn mynd i ddod i’r byd i berswadio pobl i edifarhau cyn i Dduw sefydlu trefn newydd trwy’r Meseia.
(gweler Mathew 3:1-14; 4:12; 9:14; 11:2-18;14:2-10;16:14;17:13; 21:25-32; Marc 1.4-14;2:18; 6:14-27; 8:28;11:30-32; Luc 1:13-63;3:2-20; 5:33; 7:18-33; 9:7-19; 11:1;16:16;20:4-6; Ioan 1:6-40; 3:23-27;4:1;5:33-36; 10:40-41; Actau 1:5,22; 10:37;11:16; 13:24-25; 18:25;19:3-4)