Simeon

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod plentyndod Iesu. Roedd Simeon yn byw yn Jerwsalem, ac yn ddyn da a duwiol. Roedd yn disgwyl i’r Meseia ddod i’r byd ac roedd Duw wedi dweud wrtho na fyddai’n marw cyn gweld y Meseia gyda’i lygaid ei hun. Ar ôl i Iesu gael ei eni, aeth Mair a Joseff â’r plentyn Iesu i’r deml i’w gyflwyno i Dduw. Cafodd Simeon ei arwain yno gan yr Ysbryd Glân. Wrth weld Iesu, mae’r hen ŵr yn torri allan i foli Duw. Mae ei eiriau i’w gweld yn Luc 2, ac erbyn heddiw yn cael y teitl Nunc Dimittis (cyfieithiad Lladin o eiriau cyntaf y gân). Roedd Simeon yn gwybod y byddai’r Meseia yn dioddef. Does dim mwy o sôn amdano yn yr Ysgrythur.
(gweler Luc 2:25,34)