1 Brenhinoedd 9:13

Rhoddodd Solomon 20 o drefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, fel tâl am y coed cedrwydd a’r aur gafodd i adeiladu’r deml a’r palas.  Ond doedd Hiram ddim yn hapus gyda nhw, a galwodd yr ardal yn ‘Wlad da i ddim’.  Mae’n ddiddorol sylwi mai dyma’r ardal lle roedd Iesu’n byw ac yn gweinidogaethu – ‘Galilea’r cenhedloedd’.