1 Corinthiaid 6:9

Mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu fel ‘puteinwyr gwrywgydiol’ (malakoi) yn golygu ‘person meddal’.  Roedd yn air oedd yn adlewyrchu agwedd y Rhufeiniaid tuag at rôl ‘ferchetaidd’ y person yma mewn perthynas wrywgydiol.  Mae’r gair sy’n cael ei gyfieithu fel ‘gwrywgydwyr gweithredol’ (arsenokoitai) yn cyfeirio at y dynion yn y berthynas oedd yn treiddio’r llall mewn cyfathrach wrywgydiol.   Doedd y Rhufeiniaid ddim yn gwrthwynebu’r weithred yma o gwbl cyn belled â’i fod ddim gyda dinesydd Rhufeinig arall, ond yn hytrach gyda chaethwas neu ddyn o’r dosbarth gweithiol.