1 Samuel 13:14

Roedd y Philistiaid yn gryf yn filwrol, ac wedi casglu at ei gilydd yn Michmas i ymladd yn erbyn Saul a’i fyddin yn Gilgal.  Roedd yn sefyllfa argyfyngus.  Yna, tra’n disgwyl am Samuel yr offeiriad i arwain y paratoadau ysbrydol ar gyfer y frwydr, mae Saul yn colli amynedd ac yn gweithredu’n fyrbwyll.  Mae o’i hun yn mynd ati i gyflwyno offrymau ac aberthu i Dduw.  Ond roedd beth wnaeth o yn fwy na brys difeddwl – roedd yn dangos gwendid sylfaenol yn ei gymeriad, sef parodrwydd i gyfaddawdu a gweithredu’n groes i gyfarwyddiadau Duw.