1In 1:1-2:6

 

Mae Ioan yn dechrau ei lythyr gyda'r un math o eirfa ag sy ar ddechrau ei Efengyl (Ioan 1:1-4).
Mae’n pwysleisio fod y newyddion da am fywyd tragwyddol wedi’i seilio ar ffeithiau hanesyddol a thystiolaeth llygaid dystion i'r ‘Gair’ a ddaeth yn berson dynol.
Os ydy'r Cristion yn dweud ei fod mewn perthynas gyda Duw, dylai ei fywyd ddangos hynny. Mae'n gwybod ei fod yn bechadur ac mai trwy aberth y Meseia yn unig y mae’n gallu derbyn maddeuant. Wedi derbyn maddeuant ddylai'r Cristion ddim dal ati i fyw bywyd sy'n gaeth i bechod (cf Rhufeiniaid 3). Mae'n hytrach yn byw bywyd o ufudd dod i ewyllys Duw.