1In 2:18-27

 

Mae yna bwerau sy'n tynnu'n groes i Grist ar waith. Ac mae rhai pobl oedd yn dweud eu bod nhw’n Gristnogion ar un adeg, sydd nawr wedi troi cefn ar y gwirionedd.
Mae'r Cristion wedi derbyn yr Ysbryd Glân, ac mae'n gwybod beth ydy'r gwir (Ioan 16:13), ond mae'r rhai sy'n gwrthod credu mai Iesu ydy'r Meseia yn ceisio arwain pobl ar gyfeiliorn.