1In 5:14-21

 Mae’r Cristion sydd am wneud ewyllys Duw yn gallu gweddïo ar Dduw yn hyderus e.e. pan fyddwn ni’n gweddïo ar i Dduw fendithio Cristnogion eraill.
Yna mae Ioan yn gorffen ei lythyr trwy ddweud bod tri peth yn sicr:
(a) Dydy'r Cristion ddim yn dal i fyw bywyd sy'n gaeth i bechod. Mae Duw yn ei amddiffyn e rhag yr un drwg.
(b) Mae'r Cristion yn gwybod ei fod yn blentyn i Dduw, ond bod y byd yng ngafael Satan (‘yr un drwg’).
(c) Mae'r Cristion yn gwybod fod Mab Duw wedi dod yn berson o gig a gwaed, ac mae wedi deall y gwirionedd sy'n arwain i fywyd tragwyddol.