1Pedr 2:4-12

 

Mae Duw yn gwneud ei bobl yn ‘deml’ ysbrydol (Effesiaid 2:19-22), ac yn ‘offeiriaid’ wedi eu neilltuo i offrymu aberthau ysbrydol (Rhufeiniaid 12:1; Philipiaid 4:18; Hebreaid 13:15-16). Maen nhw’n bobl sydd wedi cael eu dewis gan Dduw ei hun (Effesiaid 1:4). Felly dylai ei bobl fyw bywydau da a pheidio gadael i chwantau bydol eu rheoli nhw.
Mae hyn yn golygu ymostwng i bob awdurdod oherwydd nid penrhyddid ydy'r rhyddid maen nhw wedi eu galw iddo; ond y rhyddid i wneud ewyllys Duw.