Pam oedd rhaid i Wssa farw am gyffwrdd Arch Duw? Yn 1 Cronicl 15:12,13 mae’r brenin Dafydd yn esbonio fod yr ARGLWYDD wedi digio hefo nhw am beidio symud yr Arch yn y ffordd iawn. Dim ond y Lefiaid oedd i fod i symud yr Arch, a hynny ar ôl iddyn nhw fynd drwy’r ddefod o buro eu hunain. A ddylai hi ddim bod wedi cael ei gosod ar gert. Mae Exodus 37:5 a Numeri 4:15 yn dangos yn glir fod neb i gyffwrdd yr Arch, ac mai dim ond y Cohathiaid o lwyth Lefi oedd i fod i’w symud drwy ei chario ar bolion ar eu hysgwyddau.
2 Samuel 6:6,7
|