2Cor 4:1-5:10

 Dydy gweision Duw ddim yn digalonni oherwydd mae'r Un sy wedi eu galw nhw yn eu cynnal nhw hefyd, ac yn rhoi iddyn nhw’r gallu i ddal ati. Mae bywyd a neges yr apostol yn gwbl agored. Os ydy’r efengyl mae e’n ei chyhoeddi wedi ei chuddio oddi wrth bobl, mae felly am fod Satan wedi dallu’r bobl sy’n gwrando.
Mae Paul yn pwysleisio ei wendid ei hun ar y naill law a gallu a nerth Duw ar y llaw arall. Yn allanol mae Paul yn dioddef, ond yn fewnol mae'n cael ei adnewyddu oherwydd fod fflam yr efengyl ac Ysbryd y Meseia yn llosgi yn ei galon. O’i osod ochr yn ochr â’r bywyd tragwyddol sydd i ddod dydy dioddefaint y presennol yn ddim byd i boeni amdano! Felly mae'n dyheu am gael bod gyda Iesu Grist (Rhufeiniaid 8:23), ond yn y cyfamser mae’n gwneud popeth o fewn ei allu i blesio ei feistr.