2In 1:1

Mae’r Groeg yn dweud yn llythrennol ‘at arglwyddes sydd wedi ei dewis, ac at ei phlant.’ Mae beibl.net yn ystyried hwn fel disgrifiad o’r eglwys. Ond mae’n bosib fod y llythyr yn cyfarch gwraig benodol oedd yn arweinydd ar eglwys oedd yn cyfarfod yn ei thŷ.