2Tim 1:1-14

 Mae Paul yn diolch i Dduw am ffydd Timotheus [mae'r adnodau hyn yn dangos mor ddwfn oedd y berthynas rhyngddyn nhw]. Mae'n dweud wrtho i fod yn ddewr ac yn ffyddlon, hyd yn oed os oes rhaid dioddef dros yr Efengyl – y newyddion da am haelioni Duw yn Iesu Grist. Mae'n annog Timotheus i lynu wrth y gwirioneddau oedd wedi ei ddysgu iddo.