2Tim 2:1-13

 

Yr un ffordd mae'n annog Timotheus i ddod o hyd i'w gryfder yn ei berthynas â’r Meseia ac i fod yn fodlon dioddef caledi. Dylai fod yn gwbl ufudd i'w feistr fel milwr, yn disgyblu ei hun fel mabolgampwr ac yn gweithio’n galed fel ffermwr.
Er od Paul yn rhwym yn y carchar, mae'n gorfoleddu yn y ffaith bod dim byd yn gallu stopio’r Efengyl rhag mynd ar led. Mae’n gallu wynebu pob seyllfa anodd yn y presennol am fod y fuddugoliaeth a'r wobr yn y dyfodol yn sicr.