2Tim 2:14-26

 

Mae'n dweud wrth Timotheus am osgoi mân-ddadleuon diwerth y gau athrawon, a mynd yn ei flaen i gyhoeddi'r newyddion da yn ffyddlon a thrin Gair Duw yn gyfrifol. Dylai weithio i blesio Duw yn unig.
Dylai ffoi rhag chwantau ieuenctid, a byw bywyd sy’n dangos cyfiawnder, ffydd, cariad a heddwch. [Un peth oedd yr heresi oedd ar led yn ei ddysgu oedd bod dim y fath beth ag atgyfodiad corfforol. Roedden nhw’n dweud mai profiad ysbrydol wedi digwydd wedi digwydd yn barod ym mywyd y Cristion ydy'r atgyfodiad cf. 1 Corinthiaid 15:12-19].