2Tim 2:9

Roedd Paul yn ôl yn y carchar yn Rhufain pan ysgrifennodd y llythyr hwn. Nid y carchariad y sonnir amdano ar ddiwedd llyfr yr Actau oedd hwn (gw. Actau 28:16,30-31). Mae lle i gredu fod Paul wedi cael ei ryddhau ar ôl iddo ymddangos o flaen yr uchel-lys yn Rhufain, a’i fod wedi mynd ar bedwaredd daith genhadol. Yna cafodd ei arestio eto. Y tro hwn roedd yn disgwyl cael ei ddienyddio (gw. 4:6).