2Tim 4:6-22

 Mae’r sefyllfa mae Paul ynddi yn anodd. Mae'n gweld fod y diwedd yn agos iddo. Ond dydy e ddim yn ddigalon. Mae'n gwybod ei fod wedi gorffen ei waith, ac mae'n edrych ymlaen at gael bod gyda Iesu Grist. Mae’n gallu dweud fod Duw wedi bod gyda fe bob cam o’r ffordd.