Aaron

Cymeriad yn yr Hen Destament, o gyfnod yr Exodus, sy’n cael ei enwi yn y Testament Newydd. Brawd Moses a Miriam, mab Amram a Jochebed o lwyth Lefi. Dyma rai o’r prif ffeithiau am ei fywyd:
• Wedi i Moses gael ei ddewis i arwain yr Israeliaid allan o gaethiwed gwlad yr Aifft, cafodd Aaron ei ddewis i siarad dros Moses o flaen Pharo (Exodus 6:28-7:7; 4:14-16)
• Yn y frwydr yn erbyn yr Amaleciaid Aaron oedd un o’r dynion ddaliodd freichiau Moses i fyny er mwyn i Israel ennill y dydd (Exodus 17:8-13).
• Roedd Aaron yn gymeriad digon gwan. Rhoiodd i mewn i bwysau’r bobl ac yn gwneud llo aur tra roedd Moses i ffwrdd ar ben mynydd Sinai. (Exodus 32)
• Cafodd ei ddewis gan Dduw i wasanaethu fel archoffeiriad, a dod yn arweinydd ysbrydol cyntaf y genedl (Exodus 28,29). Yr Archoffeiriad oedd yn gweithredu fel canolwr rhwng Duw a phobl Israel.
• Cafodd ei gadarnhau fel archoffeiriad wrth i Dduw wneud i wialen Aaron flodeuo (Numeri 17). Cafodd y wialen ei chadw yn Arch y Cyfamod wedyn (sef cist bren wedi ei gorchuddio ag aur. Roedd y gist yn arwydd o’r ffaith fod Duw gyda’i bobl).
• Fel Moses, chafodd Aaron ddim mynd i’r wlad oedd Duw wedi ei haddo i bobl Israel a hynny oherwydd i’r ddau ohonyn nhw fod yn anufudd i Dduw yn Meriba (Numeri 20:2-13,24).
• Bu farw yn 123 oed (Numeri 33:39). Cafodd ei gymryd i Fynydd Hor. Tynnon nhw ei ddillad swyddogol a’u rhoi i Eleasar, ei fab, yr un oedd yn mynd i’w ddilyn yn y gwaith o fod yn arweinydd ysbrydol y genedl.
(gweler Exodus 4:14-12:50; 15:20-19:24; 24:1-14; 27:21-32:35;34:30-35:19; 38:21-40:31; Numeri 1:3-4:46; 6:23-10:8; 12:1-20:29; 25:7-27:13; Luc 1:5; Actau 7:40; Hebreaid 5:4; 7:11; 9:4)