Achaia

 

• Talaith Rufeinig oedd yn cynnwys de gwlad Groeg.
• Roedd gwlad Groeg wedi ei rhannu yn ddwy dalaith o dan y Rhufeiniaid – Macedonia yn y gogledd, ac Achaia yn y de.
• Mae’r enw Achaiaid yn cael ei ddefnyddio yn aml i ddisgrifio Groegiaid yn gyffredinol e.e yng ngwaith Homer. Yn y Testament Newydd mae’r enw Achaia yn cael ei gysylltu yn arbennig gyda dinas Corinth
(gweler Actau 18:12,27; 19:21; Rhufeiniaid 15:26; 16:5; 1 Corinthiaid 16: 15; 2Corinthiaid 1:1)