Act 1:12

Mae Mynydd yr Olewydd ar ochr ddwyreiniol Jerwsalem, ac yn codi i tua 200 troedfedd yn uwch na’r ddinas ei hun. Rhes o bedwar copa yr ochr draw i Ddyffryn Cidron.

‘tri chwarter milltir’ – ‘taith Saboth’ yn y Roeg. Yn ôl yr arbenigwyr yn y Gyfraith ddylai pobl ddim cerdded mwy na 2,000 cufydd ar y Saboth – sef y pellter oedd i fod rhwng y bobl a’r arch pan ddaeth y genedl i mewn i wlad Canaan gyntaf (gw. Josua 3:4; cymh. Numeri 35:4).