Act 2:14-41

 

Mae Pedr yn dweud fod yr hyn oedd newydd ddigwydd yn cyflawni proffwydoliaeth Joel.
Yn ei bregeth mae'n sôn am weinidogaeth a marwolaeth Iesu o Nasareth; yn dweud ei fod wedi atgyfodi o farw ac mai fe oedd y Meseia; yn profi hynny drwy dynnu sylw at addewidion yr Hen Destament, ac yn ceisio perswadio pobl i edifarhau a chael eu bedyddio. Mae'n dweud y bydd y rhai sy'n credu yn derbyn maddeuant pechodau a'r Ysbryd Glân yn rhodd.
Daeth 3,000 o bobl i gredu y diwrnod hwnnw!