Act 2:42-47

 Mae pedair elfen yn y darlun hwn o fywyd yr Eglwys dysgeidiaeth yr apostolion, y gymdeithas (oedd yn cynnwys cydaddoli a rhannu eiddo yn ôl angen pob un), y torri bara (yn eu tai) a’r gweddïo.
Roedd gwyrthiau rhyfeddol yn cael eu gwneud drwy'r apostolion, a'r Eglwys yn tyfu bob dydd.