Act 2:9-11

Roedd y dyrfa o bobl welodd beth ddigwyddodd, ac a glywodd bregeth Pedr (adn.14-41) ar y diwrnod arbennig yma yn dod o bob rhan o’r byd fel roedd pobl yn gwybod amdano bryd hynny:
1. Parthiaid, Mediaid, Elamitiaid a Mesopotamia (y bobl hynny oedd yn byw i’r gorllewin a’r de o Fôr Caspia) – sef Iran heddiw.
2. Capadocia, Pontus, Asia, Phrygia a Pamffilia – sef dwyrain, gogledd, gorllewin a de Twrci heddiw.
3. Yr Aifft a Lybia (Cyrne oedd prif ddinas Lybia) – sef gogledd Affrica
4. Rhufain (prifddinas yr Ymerodraeth) – yr Eidal
ac yna mae’n ychwanegu:
5. Ynys Creta (yng nghanol Môr y Canoldir), ac Arabia (i’r dwyrain o’r Môr Coch) – sef Sawdi-Arabia heddiw.
Mae’n bosib fod llawer o’r bobl yma ymhlith y tair mil ddaeth i gredu yn Iesu y diwrnod hwnnw. Does dim syndod fod Cristnogaeth yn fuan iawn wedi troi’n grefydd ryngwladol.