Act 4:1-22

 

Y noson honno mae'r awdurdodau crefyddol yn arestio Pedr ac Ioan, a'r bore nesa maen nhw’n ymddangos o flaen y Sanhedrin. Mae Pedr unwaith eto'n cyhoeddi'r newyddion da am Iesu Grist yn gwbl ddi ofn. Mae’n dweud yn glir mai credu yn Iesu ydy’r unig ffordd i rywun gael ei achub. Mae'r awdurdodau crefyddol yn dweud wrthyn nhw am beidio dysgu yn enw Iesu eto, ond mae Pedr yn dweud eu bod nhw ddim yn gallu stopio am fod Duw ei hun wedi gofyn iddyn nhw dystio i'r cwbl oedd wedi digwydd.