Act 4:23-37

 Mae’r credinwyr yn cofio fod yr ysgrifau sanctaidd (yr Hen Destament) yn dweud y byddai'r awdurdodau'n gwrthwynebu dyfodiad y deyrnas (Salm 2:1-2); hefyd fod beth wnaeth yr awdurdodau i Iesu yn rhan o gynllun Duw. Maen nhw’n gofyn i Dduw am nerth i ddal ati i gyflawni eu comisiwn er gwaetha'r erlid.
Ymateb Duw i'w gweddi oedd eu llenwi nhw unwaith eto â nerth yr Ysbryd Glân.
Yna yn adn. 42-47 dyn ni’n cael darlun arall o fywyd cynnar yr eglwys. Roedd y credinwyr yn rhannu eu heiddo yn ôl angen pob un, a'r apostolion yn para i gyhoeddi'r newyddion da am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu.