Act 8:1b-25

 Roedd yr Iddew ifanc Saul yn un o wrthwynebwyr mwyaf selog yr Eglwys.
Achosodd yr erlid i'r credinwyr gael eu gwasgaru, ond trodd hynny'n ffordd i ledaenu'r newyddion da. Dyn ni’n cael hanes gweinidogaeth ryfeddol Philip yn Samaria a'r credinwyr yn derbyn rhodd yr Ysbryd Glân wrth i Pedr ac Ioan osod eu dwylo arnyn nhw. (Roedd gwrthdaro wedi bod rhwng y Samariaid a'r Iddewon ers canrifoedd, ac felly roedd beth wnaeth Duw drwy'r apostolion hyn o Jerwsalem yn bwysig iawn ar gyfer undod yr Eglwys Gristnogol)
Ymhlith y rhai oedd yn dweud eu bod yn credu roedd dewin o'r enw Simon oedd yn enwog am ei bwerau goruwchnaturiol. Roedd e eisiau cael yr un pwerau â'r apostolion, ond mae Pedr yn ei geryddu a'i herio i edifarhau a gofyn am faddeuant Duw.