Acwila

 

Cymeriad yn y Testament Newydd yn llyfr yr Actau ac yn rhai o’r llythyrau.
• Roedd Acwila yn grefftwr mewn gwaith lledr (yn gwneud pebyll), fel Paul yr apostol. Daeth ef a’i wraig Priscila yn ffrindiau agos i Paul. (Actau 18:3)
• Roedd Acwila yn dod o Pontus yn yr Eidal yn wreiddiol, ond roedd y ddau yn Rhufain pan orchmynnodd yr Ymerawdwr Clawdius tua 49 O.C. bod rhaid i bob Iddew adael y ddinas tua am fod helyntion wedi codi yn y gymuned Iddewig o achos Cristnogaeth. Daethon nhw i ddinas Corinth, a chyfarfod gyda Paul yno. Mae’n debyg eu bod nhw’n Gristnogion cyn hyn. Arhosodd Paul a gweithio hefo nhw achos fod e hefyd yn gwneud pebyll fel crefft.
• Roedd y ddau yn barod i beryglu eu bywydau dros Paul. Aethon nhw hefo Paul i Effesus, ac yno helpon nhw Apolos, gweithiwr arall yn yr Eglwys gynnar, i ddeall mwy am y ffydd Gristnogol. Roedd yr eglwys yn cyfarfod yn eu tŷ yn Effesus. Roedd y ddau yn barod iawn i roi llety i bobl, ac roedden nhw’n teithio llawer hefyd. Roedd y Cristnogion oedd ddim yn Iddewon yn meddwl y byd ohonyn nhw.
• Priscila sy’n cael ei henwi gyntaf fel arfer – efallai ei bod hi o dras uwch na’i gŵr, neu efallai mai hi oedd fwyaf amlwg yn yr eglwys. Dydyn ni ddim yn gwybod i sicrwydd.
(gweler Actau 18:2-26; Rhufeiniaid 16:3; 1 Corinthiaid 16:19; 2 Timotheus 4:19)