Adda

 

• Adda oedd y dyn cyntaf i gael ei greu gan Dduw, ar y chweched dydd. Cafodd ei greu o bridd y ddaear, ac anadlodd Duw fywyd iddo.
• Roedd yn cael byw yng ngardd Eden, i weithio a gofalu amdani a rheoli dros yr anifeiliaid. Adda gafodd ddewis enwau i holl anifeiliaid ac adar y ddaear.
• Creodd Duw wraig i Adda – sef Efa. Cafodd Efa ei themtio gan y sarff i fwyta o’r goeden yr oedd Duw wedi gorchymyn iddi hi ac Adda beidio â’i chyffwrdd. Oherwydd hyn, cafodd Adda ac Efa eu hanfon allan o’r ardd. Cafodd eu perthynas agos hefo Duw ei difetha. O hynny ymlaen bu’n rhaid i Adda weithio am ei fywoliaeth, a byddai pob person byw yn marw ac yn mynd yn ôl i’r ddaear.
• Ganwyd dau fab i Adda ac Efa i ddechrau – Cain ac Abel. Ond cafodd Abel ei lofruddio gan Cain.
• Yna cafodd Adda ac Efa fab arall – sef Seth. Mae’r Beibl yn dweud fod Adda yn 130 oed pan gafodd Seth ei eni, a’i fod wedi byw am 800 mlynedd wedyn.
• Mae’r Testament Newydd yn sôn am Adda fel yr un ddaeth â phechod a marwolaeth i’r byd. Mae Iesu Grist yn cael ei ddisgrifio fel yr Adda olaf, un ddaeth â bywyd newydd a chyfiawnder i’r byd trwy ei fywyd a’i farwolaeth.
(gweler Genesis 3:17-5:5; 1 Cronicl 1:1; Luc 3:38; Rhufeiniaid 5:12-21; 1 Corinthiaid 15:22,45; 1 Timotheus 2:13-14; Jwdas 1:14)