Aifft

 

• Gwlad yng ngogledd ddwyrain cyfandir Affrica. Mae’n gorwedd rhwng Môr y Canoldir i’r gogledd, y Swdan i’r de, camlas Suez a’r Môr Coch i’r dwyrain a diffeithwch y Sahara i’r gorllewin.
• Mae Gwlad yr Aifft yn enwog am byramidiau - hen feddau brenhinoedd yr Aifft (y Pharo). Mae llawer o dwristiaid yn mynd yno i weld yr hen adfeilion a’r mymïod.
• Mae’n wlad fawr, sych gyda llawer o’r wlad yn anialwch poeth. Ond mae’r afon Nîl yn gwneud rhannau o’r wlad yn ffrwythlon iawn a gwyrdd.
• Yn amser yr Hen Destament roedd yr Aifft yn bŵer gwleidyddol pwysig. Enw’r hen brifddinas oedd Memphis, ond heddiw Cairo ydy prifddinas y wlad.
• Roedd yr Eifftiaid yn addoli llawer o dduwiau e.e Re, Osiris, Isis a Horus. Roedden nhw hefyd yn trin y brenin, y Pharo, fel duw ac yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth. Er mwyn paratoi person ar gyfer y bywyd tragwyddol, roedden nhw’n mymïo ei gorff yn ofalus. Roedden nhw hefyd yn credu bod y brenin, ar ôl iddo farw, yn ymuno gyda’r duw Re ac yn hwylio gyda’r haul ar draws yr awyr bob dydd.
• Mae’r Aifft wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cenedl Israel, a hanes y Beibl. Oherwydd bod yr afon Nîl yn dod â dŵr i’r tir yno, mae gwlad yr Aifft yn ffrwythlon iawn. Mae hanesion yn yr Hen Destament am nifer o bobl yn ffoi i’r Aifft ar adegau o berygl neu newyn. Aeth Abraham yno oherwydd newyn (Genesis 12). Cafodd Joseff ei gymryd yno ar ôl i’w frodyr ei werthu fel caethwas. Ond cafodd Joseff ei wneud yn brif-weinidog y wlad (Genesis 37). Oherwydd newyn aeth teulu Joseff o wlad Canaan i’r Aifft i chwilio am fwyd (Genesis 42). Wedyn, flynyddoedd lawer ar ôl i Joseff a’i frodyr farw, cafodd yr Israeliaid eu gwneud yn gaethweision i’r Eifftiaid – efallai yn y cyfnod pan gafodd rhai o’r pyramidiau mawr eu hadeiladu. Yna galwodd Duw Moses i arwain yr Israeliaid i ryddid - allan o’r Aifft i wlad Canaan (llyfr Exodus).
• Yn amser Jeremeia, tua 600 mlynedd cyn Crist, roedd yr Aifft a Babilon yn brwydro i reoli’r Dwyrain Canol yn wleidyddol. Mae llyfr Jeremeia yn dweud yr hanes. Aeth Jeremeia i’r Aifft ar ôl i filwyr Babilon ddinistrio Jerwsalem yn 586 C.C. ac mae’n debyg ei fod wedi marw yno.
• Ar ddechrau’r Testament Newydd, rydyn ni’n darllen am Joseff a Mair a’r baban Iesu yn dianc i’r Aifft oherwydd fod Herod a’i filwyr am ladd Iesu.
• Erbyn y ganrif gyntaf O.C. roedd Iddewon yn byw yn llawer iawn o ddinasoedd yr Aifft. Mae rhai yn credu bod mwy na miliwn o Iddewon yn byw yn ninas Alecsandria ar un cyfnod.
(gweler Mathew 2:13-19; Actau 2:10; 7:9-40; 13:17; Hebreaid 3:16; 8:9; 11:26-27; Jwdas 1:5; Datguddiad 11:8)