Andreas

 

Un o ddeuddeg disgybl Iesu Grist. Brawd Simon Pedr, mab Jona.
• Roedd yn dod o Fethsaida, Galilea, ond wedi mynd i fyw gyda’i frawd i Gapernaum ble roedd yn gweithio fel pysgotwr.
• Roedd yn ddisgybl i Ioan Fedyddiwr cyn cyfarfod Iesu, a dywedodd Ioan Fedyddiwr wrtho mai Iesu oedd Oen Duw.
• Aeth Andreas at ei frawd Simon Pedr a dod ag ef at Iesu. Cafodd y ddau eu galw i fod yn ddisgyblion.
• Andreas oedd yr un ddaeth o hyd i’r bachgen bach â phum torth a dau bysgodyn pan oedd angen bwydo’r dyrfa fawr o Bum Mil.
• Pan ddaeth Groegiaid i chwilio am Iesu, aethon nhw gyntaf at Philip. Aeth Philip wedyn i ddweud wrth Andreas, ac yna aeth y ddau at Iesu.
• Does dim sôn am Andreas yn y Testament Newydd ar ôl hanes y disgyblion yn gweddïo yn yr oruwchystafell ar ôl i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd.
(gweler Mathew 4:18; 10:2; Marc 1:16, 29; 3:18; 13:3; Luc 6:14; Ioan 1:35-44; 6:8; 12:22; Actau 1:13 )