Anna

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Roedd yn ferch i Phenuel. Roedd Anna yn weddw mewn oed mawr, yn broffwydes, ac yn addoli’n ffyddlon iawn yn y Deml. Roedd hi yn y Deml pan ddaeth Mair a Joseff â’r plentyn Iesu i’w gyflwyno i Dduw yn y Deml ar ôl ei eni. Sylweddolodd Anna mai’r plentyn hwn oedd y Meseia a dechreuodd foli Duw am gyflawni ei addewidion.
(gweler Luc 2:36)