Annas

 

Archoffeiriad y grefydd Iddewig yng nghyfniod bywyd Iesu. Cafodd Annas ei apwyntio yn archoffeiriad yn 6 O.C. ac yna ei ddiswyddo yn 15 O.C. ond mae’r Testament Newydd yn dal i gyfeirio ato ar ôl hynny fel yr archoffeiriad. Mae sawl rheswm dros hyn.
• Er mai’r Rhufeiniaid oedd yn apwyntio a diswyddo archoffeiriaid erbyn cyfnod y Testament Newydd, roedd yr Iddewon yn dal i feddwl am yr archoffeiriadaeth fel swydd am oes.
• Mae’r teitl archoffeiriad yn cael ei ddefnyddio yn yr Actau ac yn llyfrau hanes Josephus ar gyfer aelodau’r teuluoedd penodol oedd yn agored i fod yn archoffeiriaid.
Er bod Annas wedi ei symud o’r swydd, roedd ganddo ddylanwad mawr dros yr archoffeiriaid ddaeth ar ei ôl – pedwar o’i feibion a Caiaffas, ei fab yng nghyfraith. Mae Ioan yn disgrifio Annas yn cynnal ymchwiliad cyn i Iesu ymddangos ar brawf o flaen Caiaffas.
Mae rhai esbonwyr yn dweud mai rhan o fusnes teulu Annas oedd y bythau cyfnewid arian yn y deml.
(gweler Luc 3:2; Ioan 18:13,24; Actau 4:6)