Arabia

 

• Nid yr Arabia fodern, ond ardal i’r de a’r dwyrain o wlad Israel, ar ochr ddwyreiniol afon Iorddonen. Dyma dir llwythau’r Nabateaid.
• Petra, y ddinas enwog sy wedi ei cherfio mewn craig o garreg goch, oedd prifddinas y Nabateaid. Mae twristiaid yn dal i fynd i Petra i weld y ddinas arbennig hon.
• Mae’r Testament Newydd yn dweud fod Paul wedi mynd i Arabia am gyfnod ar ôl ei dröedigaeth. Mae rhai yn meddwl ei fod dechrau pregethu yno, ond dydyn ni ddim yn gwybod hynny i sicrwydd.
(gweler Galatiaid 1:17; 4:25)