Asa

 

Brenin ar Jwda o gyfnod y Deyrnas Ranedig (930 – 586 C.C.). Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu.
• Asa oedd trydydd brenin Jwda ar ôl i’r deyrnas rannu’n ddwy (910-869C.C.)
• Bu’n frenin am 41 o flynyddoedd. ac yn ystod ei frenhiniaeth ceisiodd stopio’r bobl addoli delwau, a chafodd wared â rhai o’r allorau oedd wedi eu codi i dduwiau paganaidd ar ben mynyddoedd.
• Gofynnodd Asa am help Syria i orchfygu Baasa o Israel. Cafodd ei gondemnio am hynny oherwydd roedd e wedi dangos diffyg ffydd yn Nuw.
(gweler 1 Brenhinoedd 15:8-16:29; 22:41-46; 1 Cronicl 3:10; 2 Cronicl 14:1-17.2; 20:32-21:12; Jeremeia 41:9; Mathew 1:7/8)