Asia

 

• Rhanbarth Rhufeinig – gorllewin gwlad Twrci fodern. Mae’n anodd nodi ffiniau’r rhanbarth yn bendant. Pergamus oedd prifddinas gyntaf y rhanbarth, ond yna daeth Effesus yn brif ganolfan i’r ardal yn ddiweddarach.
• Roedd Asia yn cael ei reoli gan Proconswl oedd yn cael ei ddewis gan y Senedd drwy dynnu enw allan o het. Roedd y Proconswl yn llywodraethu am flwyddyn yn unig, ond ar ôl bod allan o’r swydd am bum mlynedd roedd yn bosib ymgeisio am y swydd eto.
• Roedd cyngor y rhanbarth yn symud o ddinas i ddinas ar gyfer eu cyfarfodydd. Yn rheoli’r cyngor oedd yr Asiarch, ac un o ddyletswyddau’r Asiarch oedd offrymu aberthau dros yr ymerawdwr a’i deulu.
• Dyma rai o ddinasoedd enwog Asia - Adramitiwm, Assos, Cnidus, Effesus, Laodicea, Miletus, Pergamus, Philadelffia, Sardis, Smyrna, Thyatira a Troas.
(gweler Actau 6:9; 1 Corinthiaid 16:19; 1 Pedr 1:1)