Asotus

 

• Yr enw modern ar Asotus ydy Esdud. Asdod ydy’r enw yn yr Hen Destament (1 Samiwel 5).
• Roedd Asotus yn un o 5 dinas y Philistiaid yn yr Hen Destament. Roedd y Philistiaid yn elynion mawr i’r Israeliaid.
• Yn 1 Samiwel 5 mae hanes y Philistiaid yn dwyn Arch y Cyfamod, y bocs aur oedd yn dal y Deg Gorchymyn. Cymerodd y Philistiaid yr Arch i deml y duw paganaidd Dagon yn Asotus.
• Ganrifoedd yn ddiweddarach, ymosododd y Macabeaid ar y ddinas oherwydd bod pobl Asotus yn addoli duwiau paganaidd.
• Mae Asotus tua 19 milltir o Gasa a 60 milltir o Cesarea. Roedd yn borthladd pwysig.
• Pan ddaeth Herod Fawr i reoli (40 – 4 C.C), cafodd y ddinas ei hailadeiladu. Parhaodd y gwaith yng nghyfnod y llywodraethwr Gabinius. Cyflwynodd Awgwstws y ddinas i chwaer Herod, Salome.
• Philip yr Apostol oedd y cyntaf i bregethu y newyddion da am Iesu Grist yno, tua 38 O.C.
(gweler Actau 8:40)