Balaam

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o ddiwedd cyfnod yr Exodus. Mae hefyd yn cael ei enwi yn y Testament Newydd. Pan welodd Balac, brenin Moab, yr Israeliaid yn cyrraedd o dan arweiniad Moses wedi’r exodus o’r Aifft, roedd ganddo ofn, ac anfonodd am ddyn o’r enw Balaam i felltithio’r Israeliaid. Roedd Balaam yn ddewin, neu’n ddyn hysbys paganaidd enwog. Mae un o’i broffwydoliaethau (sydd ddim yn y Beibl) i’w gweld mewn arysgrif Aramaeg sy’n dyddio o tua 700 C.C. o Deir Alla yn Nyffryn Iorddonen. Er bod Duw yn erbyn iddo fynd, aeth Balaam at Balac oherwydd ei fod am dderbyn y wobr ariannol roedd Balac yn cynnig iddo. Ar y siwrne, gwelodd mul Balaam angel oedd wedi ei anfon gan Dduw i’w rwystro. Gan fod y mul yn gwneud popeth posibl i osgoi’r angel anweledig yma ac yn gwrthod symud, dechreuodd Balaam ei gamdrin. Yn y diwedd gwnaeth Duw i’r mul siarad er mwyn rhoi neges i Balaam. Wedi cyrraedd Balac, mae Balaam yn ceisio melltithio’r Israeliaid, ond yn lle hynny, yn cael ei hun yn eu bendithio. Mae’r Ysgrythur yn condemnio Balaam fel person anfoesol a diegwyddor.
(gweler Numeri 22:2–24:25; Josua 24:9-10; Barnwyr 11:25; Micha 6:5; 2 Pedr 2:15; Jwdas 11; Datguddiad 2:14)