Benjamin

 

Enw ar y llwyth/ teulu oedd yn ddisgynyddion i Benjamin. Mab ieuengaf Jacob a Rachel. Bu Rachel farw wrth eni’r plentyn. Wrth iddi farw rhoddodd yr enw Benoni (mab fy helynt) i’r babi, ond newidiodd Jacob yr enw i Benjamin (mab fy llaw dde).
Yn Genesis 49, mae Jacob yn bendithio ei feibion ar ei wely angau ac yn rhagweld dyfodol llwyth Benjamin. Roedd Ehud (o gyfnod y Barnwyr), y Brenin Saul, Esther (briododd Ahasferus, brenin Persia), a’r apostol Paul ei hun yn perthyn i lwyth Benjamin. Yn ninas Jerwsalem, roedd dau ddrws yn cael eu galw yn Byrth Benjamin – un yn y Deml ac un arall yn wal allanol y ddinas.
(gweler Genesis 49:27; Numeri 1:11-2:22; 7:60; 10:24; 13:9; 26:38-41; 34:21; Deuteronomium 27:12; 33:12; Josua 18:11-28; Barnwyr 5:14; 10:9; 1 Samiwel 4:12; 9:1-10:21; 22:7; 2 Samiwel 2:9 – 4:3; 19:17-21:14;23:29; 1 Brenhinoedd 12:21-23;1 Cronicl 6:60-9:7; 12:16-29; 21:6; 27:21; 2 Cronicl 11:1-23; 14:8-15:9; 17:17;25:5; 34:9-32; Esra 1:5; 4:1;10:9; Nehemeia 11:4-36;Esther 2:5; Salm 68:27; 80:2; Jeremeia 6:1;17:19-26; 20:2; Hosea 5:8; Obadeia 1:19; Sechareia 14:10; Actau 13:21; Rhufeiniaid 11:1; Philipiaid 3:5; Datguddiad 7:8)