Bethania

 

• Pentref bach tua 2 filltir i’r dwyrain o Jerwsalem ar ochr Mynydd yr Olewydd,. Dyma’r pentref olaf cyn cyrraedd Jerwsalem wrth i chi deithio yno ar y ffordd o Jericho. Roedd Iesu yn ymweld â’r pentref yn aml iawn.
• Roedd Mair, Martha a Lasarus, ffrindiau Iesu yn byw yma. Wedi i Lasarus farw, cafodd ei gladdu, a daeth Iesu i’r pentref a’i atgyfodi o’r bedd.
• Dyma lle roedd Simon y Gwahanglwyf yn byw.
• Mae’r Testament Newydd yn dweud fod Iesu wedi cael ei eneinio yno.
• Yr enw modern ar Bethania ydy el-Azariyeh. Mae’r enw yn golygu Lle Lasarus.
• Mae coed ffigys, almon ac olewydd yn tyfu yn yr ardal.
(gweler Mathew 21:17; 26:6; Marc 11:11-12; 14:3; Luc 19:29; 24:50; Ioan 11:1,18; 12:1,9)