Bethlehem

 

• Ystyr yr enw ydy “Tŷ Bara”
• Mae Bethlehem hefyd yn cael ei galw yn Dref / Dinas Dafydd, Effrata neu Effrath (Genesis 35).
• Mae’r dref tua 5 milltir i’r de orllewin o Jerwsalem, mewn ardal ffrwythlon. Mae’n sefyll ar grib uchel sy ddim yn bell o anialwch Jwdea
• Mae’r enw i’w weld yn yr Hen Destament. Cafodd Rachel, gwraig Jacob ei chladdu yn agos i’r pentref. Mae Genesis 35:20 yn dweud bod Jacob wedi codi colofn o gerrig ar ei bedd. Mae pobl leol heddiw yn dal i ddangos “bedd Rachel” i ymwelwyr. Hefyd daeth Ruth (llyfr Ruth) i fyw i Fethlehem ar ôl iddi symud o wlad Moab gyda’i mam yng nghyfraith, Naomi. Priododd Ruth gyda Boas, ffermwr cyfoethog o Fethlehem, hen-daid/dad-cu y Brenin Dafydd.
• Proffwydodd Meica yn yr 8fed ganrif bod Meseia yn mynd i gael ei eni ym Methlehem. Daeth y broffwydoliaeth yn wir. Cafodd Iesu ei eni ym Methlehem ar ôl i Mair a Joseff deithio yno o Nasareth (taith 3 diwrnod o leiaf) ar gyfer cyfrifiad swyddogol. Achos bod Joseff yn perthyn i deulu’r brenin Dafydd, roedd yn rhaid iddo fo a’i deulu fynd i Fethlehem i gofrestru.
• Dinistriodd yr Ymerawdwr Hadrian y dref yn yr ail ganrif O.C.. Yna, ar ôl i’r Ymerawdwr Cystenin ddod yn Gristion, cafodd eglwys y Geni ei hadeiladu i ddangos ble, yn ôl y traddodiad, gafodd Iesu ei eni. Mae’r eglwys yno heddiw, a rhaid i bawb sydd am fynd i mewn i’r eglwys blygu i fynd trwy ddrws isel iawn – arwydd bod yn rhaid i bawb sy am ddod at Iesu y Gwaredwr blygu yn wylaidd
• Mae’r Testament Newydd yn dweud bod angylion wedi mynd i ddweud y newydd da am eni Iesu wrth fugeiliaid oedd yn edrych ar ôl defaid mewn caeau y tu allan i Fethlehem. Mae Meysydd y Bugeiliaid yno o hyd, a bugeiliaid modern yn dal i edrych ar ôl defaid a geifr yno.
• Roedd yr ysgolhaig mawr Jerôm yn byw ym Methlehem yn y bedwaredd ganrif. Cyfieithodd Jerôm y Beibl i’r Lladin.
(gweler Mathew 2:1-16; Luc 2:4-15; Ioan 7:42)