Boas

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Barnwyr.
• Mae hanes Boas i’w weld yn llyfr Ruth. Roedd yn berchen llawer o dir yn Bethlehem, ac yn gofalu’n dda am ei weithwyr. Pan gyrhaeddodd Ruth y pentref wedi teithio o wlad Moab gyda’i mam-yng-nghyfraith Naomi, helpodd Boas hi i gael gwaith a bwyd. Yna priododd Boas Ruth.
• Cawson nhw fachgen bach - Obed, sef taid/tad-cu y brenin Dafydd.
• Mae enw Boas i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu
(gweler Ruth 2:3-14; 3:6-13; 4:1-22; 1 Cronicl 2:11/12; Mathew 1:5 a Luc 3:32)