Caiaffas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu a chyfnod yr Eglwys Fore. Archoffeiriad (prif swyddog) y deml, ac arweinydd crefyddol a gwleidyddol yn Jerwsalem tua 18 – 36 O.C. Cynllwyniodd Caiaffas i ddal Iesu a’i ladd. Cafodd Iesu ei anfon ato i sefyll ei brawf ar ôl iddo gael ei arestio yng ngardd Gethsemane. Roedd hefyd yn gyfrifol am erlid y Cristnogion cyntaf ar ddechrau Llyfr yr Actau hefo cydweithrediad Annas, ei dad-yng-nghyfraith. Roedd Annas wedi bod yn archoffeiriad o’i flaen. Cafodd Caiaffas ei symud o’i swydd gan Fitelius, llywodraethwr Syria.
(gweler Mathew 26:3-57; Luc 3:2; Ioan 11:49; 18:13-28; Actau 4:6)