Carpus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae’n cael ei enwi yn ail lythyr Paul at Timotheus pan mae’r apostol Paul yn gofyn am glogyn oedd wedi ei adael ganddo yn Troas gyda Carpus. Mae’n debyg fod Paul wedi aros yn nhŷ Carpus yn y ddinas honno. Mae Paul hefyd yn dweud ei fod wedi gadael sgroliau ar ôl – efallai mai copïau o’r Hen Destament oedd rhain.
(gweler 2 Timotheus 4:13)