Cesarea

 

• Dinas yn Israel oedd hefyd yn cael ei galw yn Cesarea Maritima. Mae’n gorwedd ar arfordir Môr y Canoldir tua 33 milltir i’r gogledd o Jopa, a 60 milltir i’r gogledd orllewin o Jerwsalem.
• Datblygodd Herod Fawr yr hen ddinas Phoenicaidd hon, Tŵr Strato, yn ddinas hardd rhwng 25 a 13 C.C.
• Roedd harbwr Cesarea yn digon mawr ar gyfer 300 o longau.
• Roedd theatr y ddinas yn dal 3500 o bobl. Yn 1961 daeth carreg i’r golwg wrth ymyl y theatr gydag arysgrif arni yn sôn am Pontius Peilat. Pan oedd Peilat yn llywodraethu yn Jwdea, roedd yn byw yn Cesarea.
• Adeiladodd Herod balas gwych ar y darn tir oedd yn ymestyn allan i’r môr. Mae haneswyr yn dweud bod pwll dŵr ffres maint pwll Olympaidd yng nghanol y palas.
• Adeiladodd Herod ddyfrbont (aqueduct) i gario dŵr ffres i’r palas o ffynhonnau Mynydd Carmel tua 10 milltir i ffwrdd.
• Mae llawer o olion yr hen ddinas i’w gweld heddiw.
• Mae llawer o ddigwyddiadau llyfr yr Actau yn digwydd yn Cesarea
1. Ar ôl iddo esbonio Gair Duw i’r Ethiop ar ffordd Gasa, aeth Philip i Asotus, ac yna i Gesarea. Mae llyfr yr Actau yn dweud bod Philip yn byw yn Cesarea,
2. Dihangodd Paul o Gesarea pan oedd pobl Jerwsalem am ei ladd ar ôl ei dröedigaeth.
3. Dyma lle wnaeth Herod Agrippa I farw tua 44 OC – ac mae rhai yn dweud bod ei fod wedi marw yn y theatr.
4. Galwodd Paul yno ar ei ffordd yn ôl o’r ail a’r drydedd daith genhadol.
5. Roedd Cornelius, y canwriad wahoddodd Pedr i ddod i rannu’r newyddion da yn byw yn Cesarea.
6. Doedd pobl Cesarea ddim am i Paul fynd yn ôl i Jerwsalem ar ddiwedd ei deithiau cenhadol. Roedden nhw’n gwybod y byddai’n cael ei arestio.
7. Cafodd Paul ei gymryd i Gesarea i ymddangos o flaen Ffelics ar ôl iddo gael ei arestio yn Jerwsalem. Mae rhai yn meddwl bod Paul wedi aros ym mhalas Herod achos mae Luc yn llyfr yr Actau yn dweud ei fod wedi aros ym mhencadlys Herod. Wedyn cafodd ei gadw dan warchodaeth mewn tŷ yn Cesarea cyn cael ei anfon i sefyll ei brawf yn Rhufain. Gwrandawodd y llywodraethwr Ffestus, y brenin Agrippa, a’r dywysoges Bernice arno yn siarad am Iesu Grist.
(gweler Actau 8:40; 9:30; 10:1, 24; 11:11: 12:19; 18:22; 21:8,12; 23:23, 31; 24:1; 25:4, 6, 13)