Cilicia

 

• Talaith Rufeinig bwysig yn ne ddwyrain Asia Leiaf, ardal Adana yng ngwlad Twrci heddiw.
• Roedd y dalaith yn rhannu yn ardal fynyddig ac yn wastadedd. Mae’n anodd mynd i’r ardal oherwydd y mynyddoedd uchel, ond mae dau fwlch
- Bwlch Syria, sy’n arwain i Antioch a’r de.
- Bwlch Clwydi Cilicia, sy’n arwain i ganol a gorllewin Asia Leiaf (Twrci).
• Roedd milwyr, pererinion, a masnachwyr yn teithio trwy’r bylchau hyn.
• Daeth Cicero, yr areithiwr enwog, yn lywodraethwr yma 50-51 C.C.
• Un o brif drefi ardal Cilicia oedd Tarsus, lle cafodd yr apostol Paul ei eni.
(gweler Actau 6:9; 15:23, 41; 21:39; 22:3; 23:34; 26:4; 27:5:Galatiaid 1:21)