Col 1:15-23

 

Mae’n bosib mai emyn cynnar sydd yn adn.15 20, yn dyrchafu person y Meseia yn creu popeth, yn cynnal y cwbl ac yn cymodi pobl âg e’i hun. Roedd y Meseia yn dangos yn berffaith sut un ydy Duw ei hun (cf.2:9; Ioan 1:18; 14:9; Hebreaid 1:3) [Mae'n amlwg mai un o nodweddion yr heresi mae Paul yn dadlau yn ei herbyn hi oedd dealltwriaeth wallus o natur Iesu Grist a'i waith].
Mae'r apostol yn dweud yn glir mai trwy farwolaeth y Meseia y mae pobl yn cael eu cymodi â Duw, ac mae'n annog ei ddarllenwyr i ddal ati.